
|
ELAIN YN
ENNILL YSGOLORIAETH EISTEDDFOD YR URDD
Cyhoeddwyd yng Nghyngor Cenedlaethol Urdd Gobaith Cymru dydd Sadwrn
mai enillydd Ysgoloriaeth yr Eisteddfod 2005 ydi Elain Llwyd,
disgybl blwyddyn 13 yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.
Mae Elain ar hyn o bryd yng nghanol ei harholiadau Safon Uwch ac yn
astudio Cymraeg, Cerdd a Drama. Mae hi yn canu, actio a
pherfformio ers ei bod yn ddim o beth.
Mae hi'n ennill yr ysgoloriaeth am ei chyfraniad gloyw i Eisteddfod
yr Urdd Canolfan Mileniwm Cymru 2005. Hi oedd yn chwarae rhan
Eponine yn y perfformiad bythgofiadwy o'r ddrama gerdd Les
Miserables. Roedd hi hefyd yn unawdydd yn y cyngerdd agoriadol
ysblennydd, Sain Cerdd a Sioe. Enillodd y ddeuawd cerdd dant
a'r ddeuawd 15-19 oed, daeth yn ail yn yr unawd ac yng
nghystadleuaeth Gwobr Goffa Llew, ac roedd yn aelod o gôr cymysg
buddugol Ysgol Syr Hugh Owen. Bu hefyd yn diddanu'r
Eisteddfodwyr drwy berfformio ar lwyfan y Lanfa yng nghyntedd
Canolfan Mileniwm Cymru.
Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau Urdd
Gobaith Cymru:
“Hoffai'r Urdd longyfarch Elain yn wresog. Rydyn ni'n
gwerthfawrogi ei hymroddiad cyson i'r mudiad gydol y blynyddoedd, ac
eleni yn arbennig mae ei chyfraniad i lwyddiant yr Eisteddfod wedi
bod yn ysgubol. Dwi’n siwr bod gyrfa ddisglair o'i blaen, ac mae'r
Urdd yn dymuno'n dda iawn iddi yn y dyfodol."
Mae Elain yn ennill gwaddol Cronfa Sim Davies; Cronfa Butlins;
Cronfa Goffa John Emlyn Thomas, Betws; Cronfa Goffa W.D. Lewis;
Cronfa Goffa John Morris; Cronfa Goffa John Haydn ac Ethel Maud
Thomas; Cronfa Henry, Elizabeth, Elfed ac Olwen Williams a Chronfa
Goffa D.J. Harries, sy'n siec o £563.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth cysyllter â: Manon Wyn,
Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus,
Swyddfa’r Urdd,
Ffordd Llanbadarn,
Aberystwyth
Ffôn: 01970 613115/ 07976 330360
E-bost:
manonwyn@urdd.org
View in English
|